http://www.s4c.co.uk/c_watch_atoz.shtml Okay, mae ychydig o'rhaglenni ma yn naff (fel arfer, dw i ddim yn licio teledu -- chi eisiau gweld naff, chi eisiau gweld teledu americanaidd), ond mae lot o'r pethau yn neis iawn -- llawn o wybodaeth (mae "Datganoli" ac "Yn Y Doc" yn
(
Read more... )
Comments 5
Mae'r un peth yn wir am wleidyddion Cymru hefyd mae gennyf ofn (a gwleidyddion pob gwlad aras mae'n siwr!)
Mae llwaer o raglenni C2 yn gallu bod yn ddiflas tu hwnt. Mae nhw dan yr argraff mae cwbwl mae pobl eisiau ydi sothach Eingl-Americanaidd ond YN Gymraeg Mae yna ambell i gyfres byr diddorol wedi bod ar Radio Cymru'n ddiweddar, am 6:00pm - roedd un gan y bardd Twm Morus, ble roedd yn mynd o gwmpas Cymru yn cymharu acenion pobl mewn ardal i geisio gweld ble roedd geirfa yn newid o fod yn ogleddol i ddeheuol (northen to southern) + straeon llafar gwerin (oral folk tales). Dwi ddim yn cofio'r enw, rhywbeth debyg i 'Dweda di' (Say you). Yn anffodus mae'n anhodd dod o hyd i hen raglenni ar wefan yr orsaf, a dwi ddim yn meddwl bod podlediad ar gael ( ... )
Reply
Aigh, dw i'n byw yn BURBANK, yn syth i fyny'r stryd o'r stiwdios ffilm. Dw i i fyny i'nghlustiau fi mewn sothach eisoes. :-P
... mynd o gwmpas Cymru yn cymharu acenion ...
Oooooooh ...
Mae'r cyflwynwraig Nia Parry'n byw ar yr un stryd a fi ra ra ra ...
Cwl iawn!
Reply
Reply
Ail raglen bu hi arno oedd 'Cariad@iaith', a oedd yn ceisio bod yn 'reality tv' (sigh!) yn sgil poblogrwydd Big Brother. Roedd yn dilyn criw o ddysgwyr pur tra roeddynt yn byw ac yn astudio yn Canolfan Nant Gwrtheyrn am fis - roedd yn ok ond braidd yn arwynebol.
Reply
Reply
Leave a comment